Ornithurae

Ysgerbwd Ichthyornis dispar, Rocky Mountain Dinosaur Resource Center
Twrci (Alectura lathami).

Grŵp neu cytras (clade) tacsonomegol yw Ornithurae (Groeg: "adar cynffonog") sy'n cynnwys hynafiaid yr Ichthyornis, yr Hesperornis, a phob aderyn sy'n fyw yn y cyfnod modern.

Bathwyd y gair gan Ernst Haeckel yn 1866 a chynhwysir yn y grŵp hwn pob un o'r "gwir adar", gyda chynffonau - a dyma sy'n gwahiaethu'r grŵp hwn oddi wrthy y cytras arall a thebyg Archaeopteryx, a roddwyd mewn grŵp newydd a gwahanol gan Haeckel o'r enw Sauriurae. Mae gan adar modern gynffonau bychan, ond mae gan yr Archaeopteryx gynffonau hirion, na chysylltir gydag anifeiliaid sy'n gallu hedfa.[1]

Ornithurae

Ichthyornis




Hesperornithes




Limenavis



Aves (adar modern)





  1. Haeckel, Ernst (1866). Generelle Morphologie der Organismen. Berlin: Georg Reimer.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search